Caernarfon: Safle Treftadaeth y Byd

Atyniadau

Mae gan Gaernarfon - y dref a'r ardal o'i chwmpas - lu o atyniadau cyffrous i gadw pob un aelod o'r teulu'n hapus, a phob un ohonynt yn cynnig profiad gwerth chweil. Gallwch roi cynnig ar bysgota am grancod yn afon Seiont, ymweld â'n castell canoloesol - mae rhywbeth at ddant pawb!

Mae'r rhestr isod yn siŵr o gynnig rhywbeth yng Nghaernarfon a fydd yn apelio atoch.

Canolfan Dreftadaeth Cae'r Gors

phone: 01286 831715

Gallwch ymweld â Chae'r Gors, a fu'n gartref i'r llenor Kate Roberts. Trwy ffilm, ystafell ddehongli hanes yr ardal gyda'r offer diweddaraf, a thaith o gwmpas y tŷ a ddodrefnwyd fel yr oedd 100 mlynedd yn Ôl, cewch olwg ar ffordd o fyw unigryw'r tyddynwyr/chwarelwyr.

Castell Caernarfon

phone: 01286 677617

Castell Caernarfon

Cawres o gaer. Mae cadernid anhygoel Castell Caernarfon yn bresenoldeb bygythiol. Byddai ymosod ar y strwythur enfawr hwn wedi bod yn syniad brawychus. Drwy ddefnyddio carreg i bwysleisio ei awdurdod, creodd y Brenin Edward I un o’r cestyll mwyaf trawiadol yng Nghymru. Yn gwbl haeddiannol o statws Treftadaeth y Byd.

Yr Hwylfan

phone: 01286 671911

Atyniad i'r teulu cyfan sydd wedi ennill llu o wobrau. Dewch i fwynhau'r ganolfan chwaraeon antur dan do fwyaf a gorau yn y Gogledd. Sleidiau anferth, â chwymp o 25 troedfedd, rhaffau siglo, pyllau peli, pontydd rhaff. Cornel chwarae ar wahân ar gyfer plant dan 5 oed, caffi a phatio.

Fron Goch

phone: 01286 678912

Am bob person gyda bysedd gwyrdd mae un arall heb unrhyw ddiddordeb mewn garddio o gwbl. Felly, beth wnewch chi efo grŵp â chymysgedd o bobl fel hyn?

Traeth Dinas Dinlle

phone:

Chwe milltir i'r de o Gaernarfon, (dilynwch yr arwyddion oddi ar yr A499) fe welwch draethau Baner Las helaeth Dinas Dinlle. Maent yr un mor boblogaidd gan ymwelwyr ag ydynt gan bobl leol, ac mae caffis a siopau difyr yno - diwrnod i'r brenin i bawb o'r teulu. Ac fe gewch gyfle gwych i bysgota am ddraenogiaid y mÔr gyda'r nos.

Gelli Gyffwrdd

phone: 01248 671493

Antur i’r teulu yn Gelli Gyffwrdd – diwrnod i’r brenin go iawn! Bydd eich teulu wrth eu boddau’n reidio’r Ddraig Werdd – y certiau sglefrio cyntaf yn y byd i gael eu pweru gan bobl a Sleid y Ddraig Werdd – y sleid hiraf yng Nghymru. Mae Cychod y Jyngl yn ffefrynnau gan bawb – llywiwch y cychod o amgylch y cwrs gan ddefnyddio rhaffau a rhwyfau. Mae’r Goedwig Creu Ffau yn lle anhygoel i bawb weithio efo’i gilydd i greu ffau.

Site Information

Hawlfraint © 2024 Cymdeithas Caernarfon Marchnata

Gwefan gan Your Tourism Community