Mwy am Gaernarfon
Mae Caernarfon ar agor drwy'r flwyddyn, mae'n hawdd cyrraedd yma ar hyd y ffordd, mae'n cynnig amrywiaeth helaeth o atyniadau o'r radd flaenaf, a'r rheiny o fewn cyrraedd rhwydd, mae digwyddiadau gwych a gweithgareddau cyffrous yn cael eu cynnig yn dref ei hun ac ym mynyddoedd Eryri gerllaw. Rydym yn hynod falch o'n tref - mae'n rhywle lle gall pob aelod o'r teulu ymlacio a chael hwyl! Mae gennym lu o siopau annibynnol gwych, a digon o lefydd da yn cynnig rhywbeth i'w fwyta neu yfed i chi.
Rydym yn gobeithio y gwnewch chi ddewis Caernarfon fel cyrchfan ar gyfer eich gwyliau, ymweliad neu drip . ac rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu yma!
Y Maes
Y Maes anferth yw calon y Dref Frenhinol. Mae'r ardal yn fwrlwm o weithgarwch ac mae diwrnod marchnad (dydd Sadwrn) bob amser yn brysur. Cynhaliwyd nifer o ddigwyddiadau pwysig ar y Maes, a thraddodwyd sawl anerchiad enwog gan yr Iarll Lloyd George o Ddwyfor o'r fan hon.