Caernarfon: Safle Treftadaeth y Byd

Teithiau Tywys

Chwarae golff, beicio mynydd, pysgota yn y mÔr neu abseilio: mewn un diwrnod, gallwch fynd mewn caiac, dringo, seiclo a hwylio - a hynny yng ngofal arbenigwyr sy'n gallu trefnu hyd at ddeuddeg pecyn penodol ar eich cyfer. Ac ar derfyn dydd, beth well na mynd i nofio a mwynhau sawna cyn gwledda ar fwydydd gorau Cymru!

Ar gyrion y dref mae dewis eang o weithgareddau megis Plas Menai, ble gallwch brofi eich sgiliau dŵr, cartio dan-do yn Redline, y Ganolfan Hamdden a mwy.

Ty'd Am Dro Co

phone: 07813142751

Taith awr a chwarter o amgylch hen dre gaerog Caernarfon a chyfle i fynd ar y muriau gyda dyn lleol.

Cartio Dan-Do Redline

phone: www.redlineindoorkarting.co.uk/

Cartio dan-do Redline yw un o'r ychydig gylchedau annibynnol dan-do yng Nghymru ble gallwch fwynhau'r prisiau isaf a'r safon uchaf.

Canolfan Hamdden Arfon

phone: 01286 676451

Mae amrywiaeth eang o gyfleusterau ar gael i bobl o bob oed a gallu!

Teithiau Hanesyddol Cymru

phone: 07969 575926

Ydych chi’n bwriadu ymweld â Chastell Caernarfon pan fyddwch yn dod i aros? Ymunwch â ni am daith o amgylch y Safle Treftadaeth Byd hynod hwn. Mae Teithiau Hanesyddol Cymru wedi bod yn cynnig gwasanaeth tywys nodedig o amgylch prif safleoedd canoloesol Cymru ers deng mlynedd ar hugain a mwy. Mae eu teithiau yn para oddeutu 50 munud, ac maent yn cael eu cynnig o’r Pasg tan yr Hydref.

Mannau Diarffordd

phone: 07798 866242

Teithiau tywys, sgramblo a dringo creigiau dringen sengl mewn mannau diarffordd yng Ngogledd Cymru ac Eryri. Addas ar gyfer unigolion, teuluoedd a grwpiau bychan.

Plas Menai - Canolfan Chwaraeon Dŵr Cymru

phone: 01248 670964

Plas Menai yw Canolfan Chwaraeon Dŵr Genedlaethol Cymru, ac mae wedi bod yn cynnal hyfforddiant chwaraeon dŵr a gweithgareddau antur ers ugain mlynedd a mwy. Mae Plas Menai yn eiddo i Gyngor Chwaraeon Cymru, ac mae’n cynnig offer a chyfleusterau pwrpasol o’r radd flaenaf, ynghyd â’r ystod fwyaf cynhwysfawr o gyrsiau yn y Deyrnas Unedig.

Site Information

Hawlfraint © 2024 Cymdeithas Caernarfon Marchnata

Gwefan gan Your Tourism Community