Siopau: Celf, Crefftau ac Anrhegion
Os mai siopa yw eich diléit, yna mae gan ganol tref Caernarfon ddigon i'w gynnig i chi. Mae'r dref yn frith o siopau, bwytai a chaffis lleol unigol ac arbenigol, gyda rhai siopau celf a chrefft lleol hefyd yn eu canol.
Beth bynnag rydych chi'n chwilio amdano - anrheg arbennig, dilledyn ffasiynol neu ddillad awyr agored, cynnyrch neu roddion a chrefftau lleol o safon, neu nwyddau bob dydd, rydych yn siŵr o ddod o hyd iddynt yn un o'n siopau a restrir isod.
Lotti & Wren
phone: 01286 677771
An independent boutique offering a unique range of homewares, gifts, clothing and childrens wear. Specialising in locally designed products.
Palas Print
phone: 01286 674631
Dewis eang o lyfrau Cymraeg a Saesneg at ddant pawb. Gwasanaeth archebu sydyn. A beth am baned o de neu goffi tran porir silffoedd.
Panorama Ffotograffiaeth
phone: 01286 674140
Oriel gelf ffotograffig. Printiau mewn ffrâm, mownt a chynfas.
Gwasanaethau ffotograffig, fframio, argraffu a lluniau pasbort.
Siop y Plas
phone: 01286 671030
Rydym yn arbenigo mewn aur Cymreig a gemwaith Celtaidd - y brandiau gorau, gan gynnwys Sheila Fleet, Carrick, Ortak a setiau gemfaen unigryw Tegeirian. Croeso i chi ddod mewn i bori.
Siop Iard
phone: 01286 672472
Gemwaith, gwaith metel a chelf llechen wedi eu gwneud â llaw yn y gweithdy, a chyrsiau crefft amrywiol.
Barnet Pepper Cyf
phone: 01286 672717
Optometryddion ac ymarferwyr lensys cyffwrdd. Rydym yn darparu sbectolau, sbectolau haul o safon, lensys cyffwrdd, toddyddion a phopeth sydd ei angen arnoch i ofalu am eich llygaid. Mae dau optometrydd ar ddyletswydd ich gwasanaethu bob amser.
Peter Harrop
phone: 01286 673631
Optegydd. Profion llygaid, sbectolau, sbectolau haul, sbectolau clipio, gwaith trwsio ac ategolion.
Robert & Owen
phone: 01286 672387
Dewis helaeth o emwaith aur Cymru. Modrwyon dyweddïo a phriodas. Ymwelwch â ni ar gyfer yr anrheg arbennig yna!
Gemwaith Jewellery Cymru
phone: 01286 675733
Gemwaith cyfoes a choeth, yn addas ar gyfer yr hen ar ifanc. Setiau gemfaen unigryw. Croeso i chi ddod mewn i bori. Aur Cymreig o Glogau a CYM. Gwasanaeth trwsio.