Caernarfon: Safle Treftadaeth y Byd
BANNER: 02 pont BANNER: 04 doc BANNER: 01 Something 1 BANNER: 03 Something 3 BANNER: 06 Something 6

Croeso i Gaernarfon

- ein tref farchnad hynafol ar gyrion Parc Cenedlaethol Eryri.

Roedd y lle arbennig hwn yn un o hoff gyrchfannau Tywysogion Celtaidd ac Ymherodwyr Rhufeinig, a heddiw, yn ogystal â bod y dref Gymreiciaf yn y byd, mae'n rhan o Safle Treftadaeth y Byd UNESCO, diolch i’n castell hynod o’r 13eg ganrif.

Picture

Ffurfiwyd y dref gaerog wreiddiol gan y Brenin Edward l, ac fe’i cynrychiolwyd gan Lloyd George, y Cymro tanbaid a fu’n Brif Weinidog dros wledydd Prydain adeg y Rhyfel Mawr. Wrth ymweld â’r dref heddiw, gallwch synhwyro a hyd yn oed cyffwrdd yr hanes hwnnw yn yr hen dref gaerog a’r castell. Ond mi wnewch chi hefyd ddod i ddeall bod gan Gaernarfon lawer mwy i’w gynnig!

Picture

Wrth grwydro o amgylch y dref heddiw, fe sylweddolwch mai yma mae Calon Geltaidd Cymru’n curo ar ei chryfaf. Cewch groeso gwirioneddol Gymreig mewn siopau sy’n llawn o gynnyrch traddodiadol. Yn yr amrywiaeth helaeth o fwytai a chaffis, cewch flasu bwyd sydd wedi’i goginio o’r cynhwysion lleol mwyaf ffres.

Picture

O’ch amgylch ym mhob man, fe glywch y Gymraeg yn cael ei siarad. Mae’r iaith hynafol hon yn ffynnu ym mhob rhan o sir Gwynedd. Mae’r Gymraeg yn iaith Geltaidd, ac mae ganddi gysylltiadau mwy clos â Chernyweg a’r Llydaweg na Gaeleg a'r Wyddeleg. Gan ei bod yn iaith ffonetig, mae’n haws ei hynganu nag y byddech yn ei ddisgwyl o’i gweld am y tro cyntaf.

Picture

Mae Caernarfon yn ganolbwynt delfrydol ar gyfer darganfod mynyddoedd tal Eryri, a’r traethau euraid ar hyd ein harfordir hardd. Yn wir, gallwch ddefnyddio Caernarfon fel man cychwyn ar gyfer archwilio Llwybr Arfordir Cymru sy’n mynd heibio ein promenâd, wrth ymyl waliau’r dref.

Picture

Mae’r ardal yn llawn dirgelion hud, pentrefi sy’n nythu mewn cymoedd a chilfachau cudd, lonydd troellog sy’n ddelfrydol ar gyfer cerdded neu seiclo, machlud ysblennydd dros FÔr Iwerddon a gwawr godidog dros Eryri.

Cliciwch yma am gopi PDF o daflen tref Caernarfon

Picture

Caernarfon, y dref yng nghalon Eryri

Mwy na dim ond Castell! Dewch i fwynhau y dref

Ymunwch â'n rhestr ebost

Mae 'na dipyn o bethau yn mynd ymlaen yng Nghaernarfon drwy gydol y flwyddyn. Tanysgrifiwch ar gyfer ein cylchlythyr er mwyn cael y wybodaeth ddiweddaraf am bob dim sy'n mynd ymlaen. Ni fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth gydag unrhyw un arall.

Canllaw Tref Caernarfon

Pwyswch yma i weld fersiwn PDF o'r Canllaw.

Pethau i’w gwneud

Rydym wedi rhestru nifer o wahanol atyniadau a gweithgareddau i chi eu mwynhau tra rydych chi’n aros yn ardal Caernarfon.

Ar Ôl ymweld â'r Castell a'r dref, rhowch gynnig ar ddringo neu hwylio mewn caiac, neu fwynhau cerddoriaeth fyw yn y tafarnau lleol. Mae nifer o wyliau blynyddol yn cael eu cynnal yn y dref hefyd, ac mae digon o gyfleon i chi bicio i mewn i rai o’r siopau a mynd am rywbeth i’w fwyta .

Mae yna rywbeth at ddant pawb yma yng Nghaernarfon!

Site Information

Hawlfraint © 2024 Cymdeithas Caernarfon Marchnata

Gwefan gan Your Tourism Community