Llefydd i fwyta ac yfed
Mae digon o ddewis ar gyfer bwyd a diod yng Nghaernarfon, o dafarndai hamddenol, siopau sglodion a chaffis hen-ffasiwn, i dai bwyta crand.
Mae'r lle'n llawn caffis, siopau coffi, bariau, tafarnau, bwytai a siopau bwyd-i-fynd o bedwar ban byd, yn y strydoedd cefn niferus ac ar y Maes.
Palas Caffi

phone: 01286 673901
Hufen iâ cartref wedi’i baratoi yn y caffi bob dydd – dros 20 blas i ddewis ohonynt. Dewch i roi cynnig ar un!
Sglodion J & C's Chippy

phone: 01286 678605
Pysgod a sglodion sydd wedi ennill gwobrau. I'w bwyta tu mewn neu i'w cario allan. Y 'Gorau yng Nghymru' yn swyddogol.
Gwesty'r Celt Restaurant

phone: 01286 674477
Croeso i un o’r canolfannau mwyaf poblogaidd yng Nghaernarfon i bobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd. Clwb hamdden, canolfan gynadledda, bar Havana a bwyd gwych yn ein bwytai o safon. Llety o'r radd flaenaf ar gael am brisiau cystadleuol.
Tafarn yr Anglesey

phone: 01286672158
Tafarn â golygfeydd anhygoel o’r Fenai, yn cynnig cwrw o’r gasgen a bwyd wedi’i goginio’n ffres gan ddefnyddio cynnyrch lleol. Croesewir plant a chŵn – mae cyfleusterau newid clwt babi ar gael. Bob nos Fercher – Meic Agored, nos Iau – Noson Cwis, nos Wener – Bandiau Byw, a dydd Sul – Cinio Rhost.
Wal

phone: 01286 674383
Caffi bar cyfoes sy’n agored drwy’r dydd, bob dydd, gan gynnig bwyd cartref a choffi bendigedig. Bwydlen Eidalaidd lawn nos Fercher/Iau/Gwener/Sadwrn. Lle enwog am stecen.
Tafarn Y Bachgen Du
phone: 01286 673604
Tafarn leol Gymreig. Un o dafarndai hynaf Cymru’n dyddio’n Ôl i 1552, wedi’i leoli ym muriau’r hen dref. Tafarn draddodiadol – bwyd ffres, nid cyflym! Y bwyty’n cynnig prydau cartref traddodiadol o gynnyrch lleol.